top of page

 

 

 

Yn hanu o Gaerdydd, trwy Gaerfyrddin a Llundain, mae caneuon Aled Rheon yn tynnu ar blentyndod yng nghefn gwlad Cymru yn gymysg â chariad a bywyd yn y ddinas. 

 

Fe osodir ei gerddoriaeth ar wahân gan urddas dawel ac unig; gyda’i lais atgofus, geiriau o’r galon ac arddull plicio unigryw yn ysgogi cymariaethau gyda cherddorion fel Nick Drake a Meic Stevens.

 

Yn dilyn rhyddhad ei EP gyntaf, Sêr yn Disgyn yn 2013 ar recordiau JigCal, dewiswyd Aled yn un o’r deuddeg artist i fod yn rhan o ail flwyddyn prosiect Gorwelion’ y BBC gyda pherfformiadau yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Rhif 6, WOMEX, Gŵyl y Gelli, FOCUS Wales, BBC Radio 2 Folk Awards ynghyd a sesiwn yn stiwdios eiconig Maida Vale.

 

Mae Aled wedi ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a’r radio; gan gynnwys sesiynau byw i Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru C2, Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales a Steve Lamacq ar BBC 6 Music; a chwaraeid caneuon Aled gan rai o hoelion wyth eraill radio BBC; gan gynnwys Huw Stephens, Tom Robinson a Mary Anne Hobbs. 

 

Rhyddhaodd Aled sengl AA ‘Stay With Me/Wrap Up Warm’ yn haf 2016, ag iddynt awgrym o sain mwy uchelgeisiol ac organig, cyn rhyddhau ei ail EP A Gorgeous Charge.

 

Bellach mae Aled i’w weld yn rhannu’r llwyfan gyda’i fandThe Gorgeous Charge; casgliad o gerddorion a chyfansoddwyr o dros Gymru i gyd; sy’n ychwanegu haenen arall at berfformiadau byw cyfareddol Aled; ac yn arddangos llawnder harddwch ei ganeuon a’r hyn sydd i ddod yn y dyfodol agos.

 

Yn dilyn llwyddiant ‘A Gorgeous Charge’ mae Aled wedi cymeryd amser i ysgrifennu a chyfansoddi gyda newyddioncyffrous i’w ddod yn 2019.

ALED

Anchor 1

© 2015 

bottom of page